Bonnie’s tongue
Dewch i gwrdd â’n Bonnie bach hyfryd! Mae Bonnie yn gi Bwli bach rhwng 2-3 mlwydd oed. Daeth hi atom oherwydd iddi gael ei chanfod yn crwydro. Druan â’r ferch fach hon a oedd yn hynod o denau, wedi cau i lawr ac wedi drysu’n llwyr gan na wyddai ymhle yr oedd hi. Mae’n amlwg bod Bonnie wedi cael ei chamdrin yn y gorffennol.
Fodd bynnag, ers iddi fod yn y cartref mae hi wedi gwneud cynnydd sylweddol; mae Bonnie yn nerfus yn y cenel ond unwaith bydd ei phawennau bach yn camu allan trwy’r drws er mwyn mynd am dro mae ei hyder yn bownsio’n ôl ! Gall Bonnie fod yn amheus o bobl wrth gyfarfod â nhw am y tro cyntaf; mae hi’n mynegi hynny trwy iaith y corff a bydd yn dweud wrthych pryd mae rhywbeth yn ormod iddi! Oherwydd hynny, bydd angen sawl cyfarfod arni er mwyn creu perthynas ac iddi fedru ymddiried ynoch cyn mynd adref gyda chi.
Unwaith y bydd Bonnie yn ymddiried ynoch chi, hi yw’r ferch fach anwylaf. Bydd hi’n dringo ar eich côl er mwyn cael cusan a chwtsh ac yn gwneud synau doniol pan fydd hi’n mwynhau cael ei chosi yn ei hoff fannau. Mae hi wrth ei bodd yn mynd am droeon hir gyda’n gwirfoddolwyr ac mae’n gi sy’n arogli popeth yn frwd! Bydd angen help arni i feithrin ei hyder yn y byd tu allan ond ddylai hi ddim cymryd gormod o amser gan ei bod hi bob amser yn awyddus i fynd allan i’r awyr agored!
Mae Bonnie wedi pasio ei phrawf cath, gallai hefyd elwa o fyw gyda chi tawel yn chartref newydd. Bydd hynny’n seiliedig ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan. Credwn y byddai Bonnie yn magu hyder trwy fod yng nghwmni ci arall. Efallai ei bod hi’n addas i fyw gyda phlant hŷn oedrannau 16+ mlwydd oed sy’n gwybod sut i wrando ar iaith ei chorff a pharchu ei gofod.
Bydd angen i Bonnie fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder, ei sgiliau cymdeithasol a bodloni ei hanghenion. Bydd angen iddi gael perchnogion a all fod o gwmpas llawer o’r amser er mwyn ei helpu ar y daith nesaf hon!
If your application is successful you will be invited to meet Bonnie Bully. If you do not hear anything within 7 days please assume that your application has been unsuccessful on this occasion. Due to the high volume of applications we receive we are unable to respond to everyone.
Comments are closed.