Mae Roxy yn ferch aeddfed sydd bellach yn barod i ddod o hyd i’w chartref parhaol ei hun. Daeth i’n gofal am ei bod yn crwydro a does neb wedi ei hawlio. Mae Roxy wedi setlo yn dda ac wedi magu cryn dipyn o bwysau. Mae gan y ferch hon awch am fywyd ac mae hi wrth ei bodd yn edrych o’i chwmpas. Mae hi’n cerdded yn dda iawn ar dennyn. Mae Roxy yn dwlu rowlio yn y glaswellt ac yn dwlu ar fwyd. Nid yw hi’n gofyn am lawer mewn gwirionedd.
Mae Roxy yn chwilio am gartref lle y gall hi gael anturiaethau, bwyd da a threfn syml.
Byddai Roxy yn elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi i helpu creu perthynas gyda’i phobl newydd.
Comments are closed.