‘Chihuahua’ cymysg 3 mlwydd oed ydy Bruno. Mae wedi cael bywyd caled iawn hyd at nawr, a mae’n edrych am ddechreuad newydd. Mae Bruno’n cymryd tipyn o amser i ddod i’ch nabod, ond unwaith mae’n gyfforddus, mae’n gi hapus a ffyddlon iawn. Mae’n gallu bod yn swil iawn gyda pobl newydd, a mae angen cyflwyno ymwelwyr i’r cartref yn araf iawn. Dydy Bruno ddim yn hoff o gwbl o’r milfeddyg, felly mae rhaid iddo fe wisgo ffroen ar gyfer unrhyw ymweliadau milfeddygol. Bydd rhaid i’w perchnogion newydd parhau gyda’i hyfforddiant â’r ffroen, i alluogi iddo ymweld â’r milfeddyg yn ddiogel.
Medi
11
Comments are closed.