Mae Earl yn ‘lurcher’ dwy flwydd oed gyda chymaint o gariad i roi. Mae e’n croesawu pawb a gwen a bydd yn bendant yn blodeuo mewn cartref llawn egni.
Pan ddaeth Earl atom fel ci di-gartref mi oedd ganddo ambell i fan dolurus ond maent yn gwella yn hyfryd. Mae wedi datblygu hyder yn ystod yr wythnosau diwethaf ac yn joio cwrdd a phobl newydd a mynd am droeon.
Fe ddylai perchnogion newydd Earl fod yn barod am lawer o ymarfer gyda fe gan ei fod dal yn ifanc ac yn awyddus i ddarganfod y byd o’i gwmpas.
Mae’n bosib y gall Earl byw gyda chwn a chathod eraill yn dibynnu ar gyflwyniadau.
Comments are closed.