Hazley
Mae Hazley yn ‘Shar-Pei’ croes frid wnaeth cyrraedd ein drysau yn ddi-gartref. Mae yn 9 mlwydd oed.
Nid oedd ei chyflwr yn dda iawn ac oedd ganddi groen tost iawn a phroblemau gydag ei chlustiau.
Ar hyn o bryd mae’n cael ei baddu er mwyn gwella ei chroen ac mae wedi cael triniaeth priodol ar gyfer ei chlustiau. Mae ei gwellhad yn raddol ond ar y ffordd i wellhad llwyr.
Fe fydd angen cartref a rhywun yno rhan fwyaf o’r dydd gan nad yw’n hoffi bod ar ei phen ei hunan am gyfnodau hir.
Fe fydd angen edrych ar ol ei chot a’i chlustiau drwy gydol ei hoes. Gofynnwn i ymgeiswyr ystyried y bydd angen ymweliadau a’r milfeddyg petai hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.
Mae’n ferch fach hyfryd ac yn hoff iawn o fod yn agos atoch wrth gerdded neu allan yn yr ardd. Mae’n cyfarwyddo a’r llinyn yn araf bach ac yn cerdded yn dda. Fe fydd angen ymarfer arni er mwyn cyfarwyddo a llinyn rhydd.
Nid yw Hazley wir yn deall sut i chwarae gyda thegannau ond mae’n dangos bach o ddiddordeb mewn rhai swnllyd. Dros gyfnod o amser fe fydd yn deall bod gemau yn sbort a sbri.
Yn y cartref iawn fe fydd yn cael digon o glod positif ac anturiaethau.
Fe fydd profiad o’r brid yn ddelfrydol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Hazley. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.