A wnewch chi estyn croeso i Helen i’r gwesty. Mae hi’n ferch fawr o’r math ‘Bwli’ ac mae hi o ddeutu 2 flwydd oed. Cyrhaeddodd i’n gofal am ei bod hi’n crwydro ac ni chafodd ei hawlio gan neb. Mae’n amlwg bod y ferch druenus hon wedi dod o le gwael ac yn un arall eto fyth sydd wedi dioddef o gael tocio’i chlustiau yn greulon. Mae’n debyg ei bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd hyd yn hyn yn magu cŵn bach. Serch hynny, mae hyn i gyd yn y gorffennol i Helen – mae hi bellach yn barod i symud ymlaen a dod o hyd i’w soffa am byth.
Mae Helen yn cymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer â phobl newydd ond ar ôl iddi wneud ffrindiau â chi bydd hi’n ffrind am oes. Mae hi’n dipyn o gariad sy’n caru cael cwtsh da. Mae Helen yn medru teimlo wedi ei gorlethu yn gyflym hyd yn oed gyda phobl y mae hi’n agos atynt yn emosiynol; felly bydd angen cartref ag oedolyn yn unig arni oherwydd fe all hi fwrw plant drosodd yn hawdd pan ei bo hi wedi cyffroi.
Bydd angen cartref lle bo digon o weithgareddau ar y gweill ar gyfer Helen a dylai ei theulu newydd fod yn hyderus wrth drin bridiau ‘bwli’. Mae hi’n athletaidd iawn am ei maint ac mi fydd hi’n mwynhau bywyd yn yr awyr agored er mwyn cadw’n brysur. Fel sy’n arferol gyda ‘bwlis’, mae Helen yn ei chael hi’n anodd i anadlu mewn tywydd cynnes. Byddai’n elwa o gael gardd fawr, ddiogel ar gyfer dyddiau pan all hi ddim cerdded yn bell a lle y gall hi fwynhau ychydig o dorheulo yn hytrach na cherdded. Gan fod ei chlustiau truenus wedi’u tocio, bydd angen iddynt gael eu harchwilio’n rheolaidd am unrhyw arwyddion o haint.
Mae Helen yn pasio cŵn eraill yn eithaf da wrth fynd am dro ond bydd angen iddi hi fod yr unig anifail yn y cartref am y tro. Fel gydag unrhyw gi achub, byddem yn argymell ei chofrestru ar gwrs hyfforddi i’w helpu i deimlo’n gyfforddus wrth rannu gofod gyda chŵn eraill.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Helen. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.