Mae Narla yn ferch fach hyfryd sy’n edrych am gartref tawel. Mae wedi gwneud yn dda iawn ers dod atom ac mae ei hyder yn adeiladu’n ddyddiol. Mae Narla yn frid croes maint canolig. Daeth atom ar ol cael ei ffeindio yn crwydro.
Dydy Narla ddim wedi cael gofal, defnyddiwyd fel peiriant bridio. Mi oedd ei chlustiau mor wael mae wedi achosi dolur a chwyddo oherwydd diffyg triniaeth. Diolch byth mae wedi ymateb i’w thriniaeth ac fe fydd yn gwella’n llwyr. O ganlyniad mae un o’i chlustiau mas o siap.
Mae Narla yn ferch fach gariadus sy’n cerdded yn dda iawn ar ei thennyn.
Teimlwn y byddai’n medru byw gyda chi tawel sydd wedi ei sbaddu. Un efallai byddai’n ei charu heb achosi pryder.
Efallai byddai’n gallu byw gyda chathod yn seiliedig ar gyflwyniadau.
Byddai cartref gyda ffrindiau 16+ yn addas iddi gan ein teimlo byddai plant ifanc yn ormod iddi. Fe fydd angen amser arni i setlo mewn yn dawel bach.
Comments are closed.