Ci ifanc o frîd cymysg, ond yn bennaf sbaniel, yw Barney. Daeth atom mewn cyflwr digon truenus. Roedd ei gôt wedi tyfu mor hir fel mai prin oedd y staff yn medru adnabod pa frîd oedd e. Druan ohono, doedd dim llawer o ymateb oddi wrtho ac roedd hi’n amlwg bod ei berchnogion blaenorol wedi ei adael i lawr.
Ar ôl sesiwn hir o ymbincio (gan gynnwys dipyn o eillio a sawl bath) roedd Barney yn teimlo fel ci newydd sbon! Mae’n dal i geisio dod i arfer â phethau ar hyn o bryd a dim ond gwylio pobl y gwnâ amy tro, ond yn ddïau fe ddaw i ddysgu caru a derbyn cariad eto’n fuan. Gwna gynnydd dyddiol o ran mynd am dro, ac mae wedi symud yn ei flaen o’r troeon bach tyner i fynd am droeon pellach, a tipyn hirach. Mae pawb mor falch o’i weld yn mwynhau bywyd.
Mae Barney wedi cael ei gyflwyno i sawl ci yn y ganolfan ac mae’n ymddangos yn llawer mwy bywiog pan fo o’u cwmpas. Byddai’n elwa o gartref gyda chi arall er mwyn ei helpu i fagu hyder. Mae wrth ei fodd yn cael ci arall i’w ddilyn wrth fynd am dro felly mae’n hanfodol ei fod yn dysgu cymdeithasu yn ddiogel. O bosib bydd ef hefyd yn gallu byw gyda chathod tra’i fod yn pasio prawf cathod yn y ganolfan.
Byddai’n well gan Barney gartref tawel heb blant ifanc gan ei fod yn dal i fod ofn pobl sy’n brysur o’i gwmpas ac yn cau lawr yn chwim o ganlyniad. Efallai y gall fyw gyda phlant tawel a phwyllog. Dylai ei berchnogion newydd fod yn rai sy’n hoffi cadw’n brysur ac wedi ymrwymo i ddeall fod cŵn achub yn cymryd amser i ymgynefino â lleoliad newydd. Bydd angen cynnal a chadw rheolaidd ar gôt Barney i sicrhau nad yw’n dirywio i’r cyflwr yr oedd ynddo pan ddaeth atom gyntaf.
Comments are closed.