Dywedwch helo wrth Asparagus, ci brîd cymysg gyda rhywfaint o’r brîd ci defaid ynddo. Mae’n 8 mis oed a ddaethpwyd o hyd iddo ar goll ar dir fferm. Mae Asparagus yn llawn egni a buasai’n gyfaill arbennig i rannu antur ag ef. Yn nodweddiadol o’r brîd ci defaid mae ef yn gyson yn chwilio am rywbeth i’w wneud ac mae wrth ei fodd yn cael amser allan yn yr ardd. Mae’n fachgen disglair iawn sydd angen cyfle i ddefnyddio’i ymennydd.
Bydd angen i Asparagus gael cartref lle mae’n cael ei gadw’n brysur, yn ddelfrydol gyda gwaith i’w wneud er mwyn diddanu ei feddwl . Er taw Asparagus yw ei enw dyw e ddim yw’n seguryn soffa!
Gan fod Asparagus wedi mwynhau rhedeg o amgylch y cae diogel yn fawr iawn byddai’n elwa o gael ymweliadau cyson gydag ardal ddiogel o’r fath.
Fe all Asparagus, o bosibl, fyw gyda chi arall a allai fod o gymorth iddo fagu hyder; byddai hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau llwyddiannus. Gall fyw gyda phlant 12+, ond eto, bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau.
Comments are closed.