Brithin
Mae Brithin yn gi hardd sy’n flwydd oed ac yn groesiad rhwng Labrador a Chi Defaid. Mae hi’n gi cyfeillgar, hapus a chariadus iawn sy’n mwynhau troeon hir lle gaiff y cyfle i archwilio ac arogli’r hyn sydd o’i chwmpas. Mae hi’n caru cŵn eraill ac yn awyddus iawn i chwarae. Eisoes, y mae hi wedi dysgu llawer o sgiliau sylfaenol a gydag ychydig mwy o hyfforddiant mi fydd hi’n gyfaill gwych. Bydd angen cwpl o droeon hir arni bob dydd gydag amser pan fo hi i ffwrdd o’i thennyn er mwyn cael chwarae ac archwilio o’i chwmpas a defnyddio’r egni sylweddol sydd ganddi. Daw hi’n ôl atoch yn dda iawn pan gaiff ei galw ac mae’n gwneud cynnydd cyson â hyn. Mae hi’n setlo’n dda iawn ar ôl cael tro ac mae’n caru cael cysgad hir da ar wely cyfforddus. Mae’n hoff o gemau lle cuddir tameidiau iddi gael chwilio amdanynt ynghyd â chwarae gyda theganau a chnoi pren. Mae hi’n hoffi bod gyda phobl gymaint â phosibl a byddai’n elwa o fod gyda rhywun sydd yn medru bod o’i chwmpas y rhan helaeth o’r dydd. Bydd angen gardd ddiogel arni.
Comments are closed.