Y dywysoges dlos hon yw Flossie – y ‘lurcher’ diweddaraf i gyrraedd y Gwesty Achub. Daethpwyd o hyd iddi ar ei phen ei hun ac ers hynny does neb wedi dod i’w hawlio hi. Search hynny, nid yw hi am adael i’w gorffennol ei dal hi’n ôl. Mae Flossie yn ferch ddi-gynnwrf ac nid oes neb yn ddiarth iddi. Hi fydd eich ffrind gorau o fewn eiliadau os oes tamaid bach blasus ar gael! Fel y rhan fwyaf o ‘lurchers’ coesau hirion, mae Flossie yn cerdded yn wych ond ar yr un pryd gall fod yn gyfaill soffa ragorol hefyd. Unwaith y daw ei theulu parhaol i’w chasglu bydd hi’n hapus i fod gyda’i phobl am byth.
Gall Flossie basio cŵn eraill yn dda wrth fynd am dro a byddem yn hapus i’w rhoi mewn cartref gyda chŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu. Bydd angen cyflwyno unrhyw gŵn eraill sy’n byw yn y cartref iddi yn y ganolfan er mwyn sicrhau eu bod yn dygymod â Flossie.
Mae Flossie yn ferch ddiddig iawn ac efallai y gall hi fyw gyda phlant o bob oed sy’n gyfforddus yng nghwmni cŵn.
Comments are closed.