Mae Dan yn gi Dashund ifanc sydd tua blwydd oed. Cyrhaeddod yn ein gofal fel ci crwydr heb ei hawlio ond, mae e nawr yn barod i wylio am ei gartref newydd am byth.
Pan cyrhaeddodd, roedd yn ofnus iawn ac cymerodd amser i addasu i’w amgylchedd newydd ac ymddiried yn ei ofalwyr ond, dangosodd yn gyflym i fod yn fachgen hyderus ac cariadus iawn.
Mae Dan wedi gwario cyfnod o amser yn y swyddfa gyda’r staff ac roedd yn ymddwyn yn dda iawn ond, dangosodd arwyddion o bryder wrth adael.
Rydym yn teimlo byddai’n gweddu orau i gartref oedolyn gyda rhywun claf sydd gartref rhan fwyaf o’r amser pwy fydd yn ganiatáu iddo ymsefydlu yn ei amer ei hun. Byddai hefyd yn mwynhau cwmni ci preswyl tawel, cytbwys wedi’i ysbaddu am gwmni a hyder.
Er ei fod yn ddair goes, mae Dan yn fachgen bywiog sy’n mwynhau sniffian ac archwylio lleoedd newydd gydag ychydig o sicrwudd ac anogaeth gan ei gerddwr.
Ar hyn o bryd, mae Dan yn aros am lawdriniaeth ar ei goes flaen, felly, nid yw’n gallu cerdded am bellteroedd hir, fodd bynnag, mae’n hapus i gerdded sawl taith gerdded fyrrach trwy gydol y dydd.
Mae’n bwysig bod ei berchennog newydd yn rheoli ei bwysau drwy gydol ei oes er mwyn sicrhau na roddir unrhyw bwysau ychwanegol ar ei gymalau.
Efallai y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ychwanegol wrth gerdded yn ei oedran hŷn.
Byddai’n elwa o gael ei gofrestru ar ddosbarthiadau hyfforddi i helpu i ddysgu sgiliau ufudd-dod a chymdeithasoli sylfaenol da iddo.
Mae Dan wedi’i hyfforddi’n rhannol mewn crate a bydd angen i’w berchenogion fod yn ymroddiedig i’w hyfforddiant parhaus yn y gartref a’r tu allan.
Mae Dan angen y cyfle i fyw ei fywyd gorau gyda rhywun a fydd yn rhoi cartref diogel a chariadus iddo am byth.
Comments are closed.