Credwn fod Abraham o bosib yn groesiad rhwng Retriever Aur a GSD. Mae’n amlwg bod y bachgen truenus hwn wedi cael ei esgeuluso yn ystod ei orffennol oherwydd ei fod wedi dod atom yn rhy ysgafn o ran pwysau ac yn dioddef o gyflwr ar ei groen. Ar ôl ymweliad a oedd wir ei angen â’r milfeddygon, mae Abraham wedi magu cryn dipyn o bwysau ac mae’n teimlo’n llawer gwell. Mae ei groen a’i gôt yn dal i fod yn gwella ond mae hyn yn cael ei reoli gyda meddyginiaeth a bydd yn siŵr o fod yn dod yn ôl i normal yn fuan.
Ymddengys bod gan Abraham ryw fath o drafferth asgwrn cefn y mae ein meddyg yn cadw golwg arno ar hyn o bryd. Mae’n dal i allu mynd am dro ac mae’n hapus i chwarae gemau ysgafn o nôl y bêl, ond mae’n debyg na fydd yn gyfaill addas ar gyfer mynd i gerdded. Mae’n cymryd moddion i reoli’r boen ar hyn o bryd tra bod ein milfeddyg yn asesu ei sefyllfa.
Oherwydd ei broblemau meddygol, ar sail maethu meddygol yn unig y bydd Abraham yn mynd i’w gartref newydd am y tro. Unwaith y bydd ein milfeddyg yn fodlon ei fod yn iach a heini, gellir ei ailgartrefu’n barhaol.
Er gwaethaf hyn oll, mae Abraham yn dal i fod yn fachgen hapus sy’n caru pêl tenis da. Gall fod ychydig yn bryderus wrth gwrdd â phobl newydd ar y dechrau ond mae’n cynhesu’n gyflym pan fydd tamaid blasus ar gael. Gallai fyw gyda chŵn eraill wedi eu hysbaddu neu gath ond mae hyn yn ddibynnol ar gynnal cyflwyniadau yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Abraham. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.