Mae Goldie, y ‘terrier’ ifanc yn chwilio am gartref sy’n llawn gweithgaredd. Mae ganddi gymeriad gwych ac mae hi’n cerdded yn dda iawn. Cyrhaeddodd Goldie i’n gofal oherwydd iddi gael ei darganfod yn crwydro a does neb wedi ei hawlio.
Mae Goldie yn datblygu ei sgiliau cymdeithasol a bydd hi’n elwa o barhau â’i hyfforddiant yn ei chartref newydd.
Yn unol â natur ‘terrier’ mae Goldie eisiau gweld beth sydd ar y gweill; mae hi fwyaf hapus pan gaiff hi ddilyn trywydd wiwerod.
Byddai Goldie wrth ei bodd yn rhoi cynnig ar weithgaredd sy’n ymwneud ag ystwythder neu rywbeth lle mae hi’n gallu defnyddio ei hymennydd.
Teimlwn y gall hi fod yn addas i fyw gyda phlant hŷn sydd wedi arfer â’r bridiau ‘terrier’ bywiog.
Gallai Goldie o bosibl fyw gyda chŵn eraill sydd yn debyg iddi hi o ran maint ac egni a dylent fod wedi eu hysbaddu.
Byddem hefyd yn hapus i’w chyflwyno i unrhyw gathod a fyddai’n byw yn y cartref gyda hi.
Mae Goldie yn ferch fach hyderus sy’n llawn egni. Mae hi’n chwilio am ei theulu hi ei hunan.
Comments are closed.