Mae Jenny yn gi tarw (‘bulldog’) Ffrengig. Daeth i mewn i’n gofal ar ôl i aelod caredig o’r cyhoedd ei hachub o ymyl ffordd brysur.
Daeth Jenny atom wedi drysu ac yn ofidus iawn. Serch hynny, aeth ‘na ddim llawer o amser heibio cyn i ni gael gweld y Jenny go iawn. Mae Jenny yn gi bach hynod o gymdeithasol; mae ganddi sgiliau gwych wrth ymwneud â phobl. Mae Jenny hefyd yn dangos cwrteisi pan fo hi o gwmpas cŵn eraill.
Ers bod gyda ni, mae Jenny wedi cael llawdriniaeth merch fawr ac mae hi’n gwella’n dda. Bellach, mae hi’n barod i symud ymlaen i bennod nesaf ei bywyd, sef i’w chartref parhaol.
Gallai Jenny o bosibl fyw gyda phlant o bob oed ac anifeiliaid anwes eraill sydd wedi eu hysbaddu.
Bydd yr holl gyflwyniadau i anifeiliaid eraill yn digwydd yn y ganolfan.
Ein cyngor bob amser yw bod pob ci yn cael ei gofrestru ag ysgol hyfforddi cŵn; bydd hyn yn helpu gyda chreu perthynas a dod i adnabod eich gilydd.
Mae’n hanfodol eich bod wedi gwneud ymchwil am y brîd brachycephalic.
Cofiwch fod gofyn glanhau plygiadau wyneb a phenolau’r brîd brachycephalic yn ddyddiol.
and bottom area.
Comments are closed.