Chihuahua 8 wythnos oed yw Maggie. Daeth i’n gofal o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau.
Mae Maggie yn chwilio am gartref lle y gall fyw gydag anifeiliaid anwes eraill sydd wedi cael eu hysbaddu. Efallai ei bod hi’n fach ond mae gan Maggie gymaint o hyder. Nid yw’n gadael i’w maint ei diffinio.
Rydym yn gobeithio y bydd ganddi ffrind gorau am byth, sef ci ifanc arall, i rannu ei bywyd gyda hi.
Buasai’n ddymunol i’w theulu newydd fod â phrofiad o’r brîd Chihuahua.
Gall Maggie fyw gyda phlant sydd â dealltwriaeth o sut i fyw gyda chi mor fach. Bydd angen iddynt allu dilyn cyfarwyddiadau a bod yn bwyllog. Mae hyn yn seiliedig ar faint pitw fach Maggie; babi bach yw hi o hyd yn y bôn.
Bydd angen i deulu newydd Maggie fod o gwmpas y rhan fwyaf o’r dydd. Bydd hyn o fudd iddi pan fydd hi’n dysgu.
Comments are closed.