Matilda
Dewch i gwrdd â’n pwten fach Matilda, ci tarw (‘bulldog’) bach Ffrengig sydd tua 2 flwydd oed.
Mae Matilda yn llawn cariad ac yn chwareus iawn. Mae hi’n caru pobl. Rydym yn gobeithio y daw hi o hyd i’w theulu parhaol yn fuan. Mae Matilda yn cerdded yn dda ar dennyn. Byddai’n fuddiol i Matilda gael ei chofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi er mwyn iddi ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol. Hoffai Matilda fod yr unig dywysoges yn y cartref.
Os ydych chi’n chwilio am gyfaill llawn cariad a hwyl i gael cwtshys â hi, Matilda yw’r ferch i chi.
Comments are closed.