Ci tarw (‘bulldog’) Ffrengig ifanc a ddaeth i’n gofal oherwydd ei bod yn crwydro yw Mrs Gump. Mae hi’n lodes hapus tu hwnt. Mae gan Mrs Gump natur gyfeillgar ac mae’n hoff iawn o gael sylw a maldod. Mae hi hefyd yn gwrtais pan fo hi o gwmpas cŵn eraill. Hoffem feddwl na fydd Mrs Gump yn aros yn hir cyn cael ei chartref parhaol.
Mae gofyn cymryd gofal arbennig o’i phlygiadau wyneb a’i phen ôl bob dydd gan ei bod yn perthyn i’r brîd brachycephalig.
Mae gwneud ymchwil am y brîd yn hanfodol cyn gwneud cais amdani.
Gallai Mrs Gump fyw gyda phlant o bob oed.
Byddem hefyd yn hapus iawn i gyflwyno Mrs Gump i gŵn eraill wedi eu hysbaddu a chathod.
Cynhelir unrhyw gyflwyniadau i anifeiliaid eraill yn y ganolfan.
Dylai pob ci gael ei gofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi er mwyn helpu creu perthynas gyda phobl newydd.
Comments are closed.