Cyrhaeddodd Nellie druan i’n gofal mewn cyflwr ofnadwy; roedd hi’n dioddef o gyflwr croen a oedd yn peri iddi golli ei blew ac roedd y blew a oedd yn weddill ganddi yn glymau difrifol. Fe wnaethon ni adael llonydd iddi am rai dyddiau iddi gael setlo ac er mwyn iddi ddod yn gyfforddus gyda’i hamgylchedd newydd.
Cafodd driniaeth gan filfeddyg a chafodd ddiwrnod sba hefyd. Mae Nellie yn bendant yn teimlo tipyn yn well nawr.
Mae gan Nellie dipyn o ffordd i fynd o hyd o ran magu pwysau a thyfu ei blew yn ôl, ond mae hi ar y trywydd iawn tuag at wellhhad llwyr. Mae hi bellach yn chwilio am bobl sy’n llawn cariad a wnaiff ei helpu.
Mae’n amlwg bod Nellie wedi cael y dechrau gwaethaf i’w bywyd bach; mae pobl wedi ei gadael hi i lawr. Fel gyda phob ci, mae Nellie mor barod i faddau’r hyn a fu yn ei gorffennol. Nid yw’r trawma yn peri diflastod iddi. Gall Nellie synhwyro ei bod hi bellach yn ddiogel ac mae ei dyfodol yn edrych yn ddisglair.
Mae Nellie yn chwilio am gartref prysur sy’n llawn anturiaethau. Gallai o bosibl fyw gyda phlant sy’n parchu ei gofod ac anifeiliaid anwes eraill cwrtais.
Bydd unrhyw gyflwyniadau yn digwydd yn y ganolfan.
Unwaith y bydd Nellie wedi cyrraedd ei tharged o ran pwysau , ein cyngor yw ei bod hi yn cael ei chofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi cŵn er mwyn ei helpu i fagu hyder.
Comments are closed.