Mae Roxy yn ferch aeddfed sydd bellach yn barod i ddod o hyd i’w chartref parhaol ei hun. Daeth i’n gofal am ei bod yn crwydro a does neb wedi ei hawlio. Mae Roxy wedi setlo yn dda ac wedi magu cryn dipyn o bwysau. Mae gan y ferch hon awch am fywyd ac mae hi wrth ei bodd yn edrych o’i chwmpas. Mae hi’n cerdded yn dda iawn ar dennyn. Mae Roxy yn dwlu rowlio yn y glaswellt ac yn dwlu ar fwyd. Nid yw hi’n gofyn am lawer mewn gwirionedd.
Mae Roxy yn chwilio am gartref lle y gall hi gael anturiaethau, bwyd da a threfn syml.
Byddai Roxy yn elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi i helpu creu perthynas gyda’i phobl newydd.
Rhowch gartref i Roxy
Os hoffech wneud cais i fabwysiadu Roxy cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Roxy. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.

Comments are closed.