Varri
Cyrhaeddodd y dywysoges bitw Varri i’n gofal yn gi bach gofidus a swil na hawliodd neb mohoni. Mae hi oddeutu 3 mlwydd oed, ac mae hi yn ei blodau. Mae gan Varri y wên orau y gallai ci tarw (‘bulldog’) ei chael. Mae hi’n siglo’i chynffon fach yn wallgof pan mae’n hapus. Mae Varri yn dod i arfer â’i bywyd yn raddol nawr ac mae wedi dangos ei bod yn ferch hyfryd tu hwnt, sy’n gwerthfawrogi cael maldod. Mae Varri yn dal i boeni ychydig mewn amgylchiadau anghyfarwydd ac mae’n cymryd amser i addasu. Unwaith y bydd hi’n gyfforddus gwibia o gwmpas gan chwarae’n hapus gyda theganau.
Er mwyn helpu Varri i gael y gorau o’i dyfodol newydd bydd angen cartref gyda phobl sy’n addfwyn ac yn dyner; rhai a fydd yn symud pethau ymlaen ar yr un cyflymdra ag y mae Varri yn dysgu. Byddai Varri yn elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi i’w helpu i fagu hyder yn ei bywyd ac yn ei chartref.
Comments are closed.