Croesiad o gi tarw Ffrengig yw Coco ac mae hi tua 18 mis oed. Cyrhaeddodd i’n gofal wedi iddi gael ei rhoi i ni oherwydd ei bod yn crwydro. Mae Coco wedi bod yn bleser pur ers iddi fod yn aros gyda ni. Mae hi bellach yn barod i ddechrau o’r newydd gyda theulu newydd i’w charu.
Mae Coco yn ferch chwareus ac mae ganddi natur fendigedig. Mae hi wrth ei bodd yn mynd ar ôl pêl a rholio o gwmpas yn y glaswellt. Mae Coco wedi gwneud ffrindiau yn y ganolfan gyda phobl a chŵn eraill.
Gallai Coco o bosibl fyw gyda phlant ac anifeiliaid anwes eraill sydd wedi eu hysbaddu.
Bydd pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn y ganolfan.
Os ydych chi’n chwilio am ferch hapus ffwrdd â hi i ymuno â’ch teulu, cyflwynwch gais. Fydd Coco ddim yn eich siomi; gadewch i ni beidio â’i gadael hi i lawr!
Mae dosbarthiadau hyfforddi bob amser yn hanfodol gyda chŵn newydd, mae’n ffordd dda o ddysgu a chreu cyswllt cryf.
Comments are closed.