Bat
Bat yw’r bachgen swil hwn, ci defaid (Collie) ifanc sydd wedi cael bywyd cysgodol hyd yma. Mae’n dechrau blodeuo yn y ganolfan ac mae’n dechrau edrych o’i gwmpas yn ystod troeon a dod i arfer â phrysurdeb bywyd y ddinas. Fodd bynnag, rydym yn teimlo y byddai’n ffynnu’n well mewn cartref mwy gwledig i ffwrdd o’r ddinas. Y naill ffordd neu’r llall, rydym hefyd yn gwybod bod ganddo’r awydd i ddysgu ac addasu i fywyd dinas llawn amser gyda chymorth pobl sydd wedi ei hymrwymo i’w helpu i wneud hyn.
Mae Bat yn haeddu byw’r bywyd gorau iddo, un yn llawn heriau ac anturiaethau yn yr awyr agored. Byddai’n gwneud cyfaill ystwythder anhygoel yn ogystal â bod yn bartner ar gyfer y cwtshus gorau.
Os ydych chi’n barod am fywyd o anturiaethau a chwarae, gyda llond llaw o ddysgu wedi’i daflu i mewn yn ddyddiol, yna Bat yw’r ci i chi.
Gallai Bat o bosibl fyw gyda phlant sy’n bwyllog ac yn gallu parchu ei ofod. Gallai Bat o bosibl fyw gyda chŵn eraill gyda’r un math o egni ag ef, sydd wedi eu hysbaddu yn ogystal â gyda chathod o bosib hefyd.
Bydd pob cyflwyniad yn cael ei wneud yn y ganolfan.
Bydd dosbarthiadau hyfforddi yn helpu i greu perthynas a dysgu pethau newydd.
Comments are closed.