Croeso, Louise, i’r Gwesty Achub. Fel y gwelwch o’i llun, hi yw’r ferch brydferthaf oll sy’n chwilio am deulu newydd i fod yn aelod ohono. ‘Dyw rhai pobl yn haeddu cŵn, ac yn sicr nid oedd y pobl yng ngorffennol Louise yn ei haeddu. Cyrhaeddodd Louise druan mewn cyflwr erchyll, roedd hi’n dioddef o ddiffyg maeth ac roedd ei chôt wedi ei hesgeuluso. Roedd Louise yn amlwg wedi cael ei thaflu i ffwrdd fel darn o sbwriel.
Wel yn ffodus iddi hi mae hi wedi glanio yn rhywle sy’n llawn cariad. Mae Louise yn gi gwahanol nawr; yn yr ychydig wythnosau y bu hi gyda ni, fe flodeuodd i fod yn ferch hapus, hyderus. Mae hi wrth ei bodd yn edrych o’i hamgylch ac yn rhedeg o gwmpas yn chwarae gyda theganau. Mae Louise wedi dod o hyd i’w hoen.
Mae hi’n ifanc, mae hi’n ddeallus iawn ac yn hollol wych. Bydd angen gwaith ar Louise, a chartref sy’n gallu gwerthfawrogi brîd GSD.
Mae Louise angen bywyd llawn antur a chyffro. Bydd ei herio hi hyd eithaf ei gallu yn ei helpu i symud ymlaen. Efallai y gall hi fyw gyda phlant, cŵn a chathod eraill.
Gwneir pob cyflwyniad yn y ganolfan.
Bydd Louise yn elwa o gael ei chofrestru ar gynllun ystwythder neu gynllun hyfforddiant gwaith.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Louise. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.