Ffrenshi ifanc yw Tiny Titch. Daeth hi atom oherwydd ei bod yn crwydro ac ni hawliodd neb mohoni. Mae hi’n bendant yn wahanol i’r dorf oherwydd ei dannedd gwaelod sy’n ymdebygu i rai gremlin! Roedd Titch ychydig yn denau a dolurus pan gafodd hi ei chanfod ond mae hi’n gwneud cynnydd yn sgil cael gofal tyner gan ein staff. Mae hi’n ferch fwyn iawn sy’n ddigynnwrf a does dim ond angen rhywun sy’n gallu cwympo mewn cariad â’i gwên!
Fel y gwelwch, mae gan Titch wyneb llawer mwy fflat na’r rhan fwyaf o Ffrenshis. Rhaid i’w pherchnogion newydd gofio hyn a bod yn barod i lanhau ei phlygiadau wyneb bob dydd. Rydym yn siŵr y bydd y cyfan yn werth chweil er mwyn cael oes o wibio a chwtsys gan ffrenshi!
Mae Titch yn pasio cŵn eraill yn iawn pan fo hi allan am dro ond gall deimlo wedi ei llethu pan fyddan nhw yn dod yn rhy agos ati. Efallai y medrai hi fyw gyda chymar gwrywaidd tawel, ond gall hyn gymryd sawl cyflwyniad, sy’n golygu o bosib ei bod yn well iddi fod yr unig gi. Mae Titch yn hoff o bobl yn bennaf oll a byddai hi’n addas i fyw gyda phlant o unrhyw oedran.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Titch. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.