Rydw i’n lanc ifanc
Maint canolig
Efallai fy mod yn addas i fyw gyda phlant
Efallai y gallwn fyw gyda chathod
Efallai y gallwn fyw gyda chŵn eraill
Byddai angen i’m perchennog newydd fynd â mi i ddosbarthiadau hyfforddi
Cadwch lygad ar agor am ein ci newydd golygus; mae’n siŵr o’ch swyno!!
Dyma Ralphie hyfryd, Chow Chow, 2 flwydd oed. Dyma Chow druenus arall eto fyth i ddod atom mewn cyflwr gwael gyda’i flew yn glymog a blêr. Yn ffodus llwyddodd ein person trin cotiau cŵn i wneud iddo deimlo fel newydd trwy dorri, golchi a sychu ei got!
Mae Ralphie yn fachgen cyfeillgar iawn, mae’n caru mynd am grwydrad bach braf yn y parc, bwyta ychydig o ddanteithion yna dod yn ôl am gwtsh gyda phobl! Mae Ralphie yn byw bywyd yn hamddenol a does arno ddim ond eisiau rhywun i fynd am droeon gyda nhw cyn dychwelyd at soffa gynnes er mwyn cael cysgu arni.
Comments are closed.