Bella
Rwy’n ferch ganol oed
Maint canolig
Efallai fy mod yn addas i fyw gyda phlant
Dydw i ddim yn gallu byw gyda chathod
Efallai y gallwn fyw gyda chŵn eraill
Mae angen cartref bywiog arnaf, byddai angen i’m perchennog newydd fynd â mi i ddosbarthiadau hyfforddi.
Mae’r hyfryd Bella yn barod i’ch swyno chi gyda’i gwên Staffy ddireidus! Druan â’r ferch hon a adawyd ar ei phen ei hun gan ei pherchnogion ac yn pendroni i ble yr aeth ei theulu. Mae hi’n colli’r bywyd teuluol hwnnw ac mae hi bellach yn chwilio am gartref gyda phobl a fydd yn ei charu ac yn gofalu amdani am byth, yn hytrach nag am gyfnod yn unig.
Staffi 6 mlwydd oed yw Bella sydd â llawer o gariad i’w roi. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded ac yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n cyflawni ei chamau bob dydd! Byddai hi’n gyfaill gwych i rywun sy’n mwynhau troeon hir gyda chwtsh mawr staffi wrth gyrraedd adref.
Cerdda Bella yn dda ar dennyn, mae ganddi foesau da gyda chŵn a phobl a gallai fyw, o bosibl, gyda chŵn tawel o faint tebyg a phlant o bob oed yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan. Nid yw Bella yn addas i fyw gydag anifeiliaid blewog llai. Byddai’n mwynhau mynd i ddosbarthiadau hyfforddi i’w chadw’n brysur a’i helpu i fyw bywyd i’r eithaf fel y mae hi’n ei haeddu.
Comments are closed.