Mae Lady Belle yn ferch tsiow-tsiow aeddfed, mae hi’n chwilio am gartref deallgar lle gall ffynnu ar ei chyflymder ei hun.
Mae Belle yn enaid pryderus ar brydiau a gall fynd yn ofnus wrth i chi fynd yn agos ati, mae angen amser arni i wneud cysylltiadau ac i addasu. Rydym wedi cael adborth da iawn gan ein gwirfoddolwyr gwych am Belle pan mae hi allan ar deithiau cerdded. Bydd Belle yn cwtsio os yw hi’n gyfforddus ac mae hi’n mwynhau rhedeg tipyn bach.
Rydym yn edrych ymlaen at ddod o hyd i gartref iddi lle gall fagu hyder a datblygu.
Gallai o bosibl fyw gyda chi arall sydd wedi’i ysbaddu a byddai hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y Cartref Cŵn.
Bydd angen gardd ddiogel ar Belle a bodau dynol cyfrifol a fydd yn ei chadw’n ddiogel.
Comments are closed.