Rwy’n fenyw ifanc.
Maint bach
Efallai fy mod yn addas i fyw gyda phlant
Dydw i ddim yn gallu byw gyda chathod
Byddwn yn elwa o gael ci arall yn y darpar cartref
Mae angen cartref tawel arna i, mae angen rhywun gyda phrofiad brîd arna i, bydd angen i’m perchennog newydd fynd â fi i ddosbarthiadau hyfforddi.
Mae angen amser i ddod i adnabod pobl newydd arnaf fi
Dewch i gwrdd â’r Frenchie 2 flwydd oed hyfryd, o’r enw Bourbon. Daeth y ferch hyfryd hon atom gan ei bod ar grwydr, roedd hi’n denau iawn ac yn ofnus pan gyrhaeddodd . Mae Bourbon wedi cymryd ychydig o amser i ddod allan o’i chragen. Ar ôl cael ei harchwiliad milfeddyg cychwynnol nodwyd bod angen llawdriniaeth BOAS ar Bourbon i’w galluogi i anadlu’n iawn; mae hi bellach wedi cael y llawdriniaeth hon ac mae’n gwella’n dda. Yn anffodus mae hyn yn hynod o gyffredin ac rydym yn ei weld yn gyson iawn ymhlith Frenchies sy’n ein cyrraedd yn y gwesty.
Mae Bourbon yn dod allan ei chragen fwy-fwy bob dydd ac mae ganddi bersonoliaeth fach hyfryd, mae hi’n mwynhau eistedd ar eich côl i gael mwythad a chael crwydro o gwmpas yr ardd synhwyrau. Mae Bourbon yn eithaf nerfus o’r byd y tu allan ac yn mwynhau cysuron cartref, bydd angen perchnogion arni all ei helpu i fagu hyder yn ystod troeon. Unwaith y byddwch wedi ennill ei hymddiriedaeth hi yw’r ferch fwyaf cariadus sydd wrth ei bodd yn chwarae.
Byddai Bourbon yn elwa o fyw gyda chi arall yn ei chartref newydd er mwyn ei helpu i fagu hyder; bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau araf a wneir yn y ganolfan. Gall hi fyw gyda phlant sy’n gyfarwydd â chŵn ac sy’n deall y bydd angen peth amser arni i ymddiried ynddynt. Nid yw Bourbon yn addas i fyw gyda chreaduriaid bach blewog llai. Bydd angen iddi fynychu dosbarthiadau hyfforddi i’w helpu i fagu hyder a dysgu sgiliau cymdeithasu gyda phobl a chŵn eraill.
Comments are closed.