Rwy’n fenyw ifanc
Maint bach
Mae’n well gen i fyw gydag oedolion yn unig
Efallai y gallwn fyw gyda chathod
Efallai y gallwn fyw gyda chŵn eraill
Mae angen cartref tawel arna i; mae angen cartref bywiog arna i; dydw i ddim yn hoffi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun, mae angen rhywun â phrofiad brîd arnaf, nid wyf yn addas ar gyfer pobl sy’n berchen ar gŵn am y tro cyntaf, byddai angen i’m perchennog newydd fynd â mi i ddosbarthiadau hyfforddi, mae angen perchennog sydd gartref y rhan fwyaf o’r amser
Dewch i gwrdd â’n pwtyn diweddaraf, Peach, bwndel bach o egni! Mae hi’n Bwli bach 2 flwydd oed a ddaeth atom gan ei bod ar grwydr; roedd hi’n nerfus ar ôl cyrraedd ac mae hi’n cael trafferth dygymod â bod mewn cenel. Mae hi’n chwilio am gartref parhaol!
Mae gan Peach bersonoliaeth all roi gwên ar wyneb unrhyw un, mae hi’n belydryn bach o heulwen! Mae gan y ferch fach hon lawer o egni a byddai’n bartner cerdded perffaith, mae hi wrth ei bodd yn mynd am dro hir ac yna dychwelyd i’r gorlan gyda’i hoff wirfoddolwyr i chwarae gyda’i theganau. Mae hi’n gallu curo unrhyw un mewn gêm dda!
Mae Peach yn ei chael hi’n anodd i fod ar ei phen ei hun, bydd hi angen perchnogion sydd o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser. Bydd angen iddynt roi mewnbwn a gwaith er mwyn magu ei hyder fel y gall fod ar ei phen ei hun. Bydd angen iddi fynychu dosbarthiadau hyfforddi i ddiwallu ei hanghenion, ei helpu i ddysgu setlo a dysgu ymdopi â bod yn fenyw fach mewn byd mawr!
Gallai fyw gyda chŵn a chathod yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan. Nid yw Peach yn addas i fyw gyda phlant a bydd angen perchnogion sy’n gyfarwydd â bridiau bwli.
Comments are closed.