A wnewch chi groesawu Reggie i’r gwesty os gwelwch yn dda? Mae’n Gi Tarw (Bulldog) ifanc sy’n chwilio am ei deulu parhaol.
Gan fod Reggie wedi bod ar grwydr cyn iddo ddod i’n gofal, ’does gennym ni ddim gwybodaeth am ei gefndir.
Yn seiliedig ar bryd a gwedd Reggie a’i ofn o’r rhan fwyaf o bethau, daethom i’r casgliad bod y llanc bach hwn wedi colli gymaint yn ei fywyd hyd yma.
Mae Reggie yn ddigon ifanc i anghofio ei orffennol trawmatig; gall ddysgu am fywyd a blodeuo o fod yn y cartref iawn.
Bydd angen cartref gyda phobl sy’n ymwybodol o’i anghenion, rhywle y gall fagu hyder ar ei gyflymder ei hun. Byddai dosbarthiadau hyfforddi yn gweddu i’r dim i gi fel Reggie er mwyn ei helpu i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud y broses o ddysgu’n hwyl.
Mae angen cartref gydag oedolyn yn unig a heb blant ar Reggie.
Teimlwn y gallai Reggie fyw gyda chi benywaidd o anian dawel. Byddem hefyd yn hapus i gyflwyno Reggie i gathod sy’n byw yn y darpar cartref.
Mae angen gwybodaeth am y brîd brachycephalic i sicrhau bod Reggie yn cael y gofal gorau.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan.
Comments are closed.