Cŵn bach
Maint canolig
Efallai ein bod yn addas i fyw gyda phlant
Gallaf fyw gyda chathod, efallai y gallwn fyw gyda chathod
Gallaf fyw gyda chŵn, efallai y gallwn fyw gyda chŵn eraill, byddwn yn elwa o gi preswyl arall.
Mae angen cartref bywiog arnaf, nid wyf yn hoffi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun, mae angen llawer o ymarfer corff arnaf, byddai angen i’m perchennog newydd fynd â mi i ddosbarthiadau hyfforddi, mae arnaf angen perchennog sydd gartref y rhan fwyaf o’r amser
A wnewch chi groesawu ein cŵn bach i’r gwesty os gwelwch yn dda. Mae’r bwndeli blewog hyn yn barod i ddechrau eu bywydau newydd.
Croesiad rhwng Border Collie a Springer Spaniel yw Sprollies. Maent yn gŵn gyda llawer o egni sydd angen llawer o ymarfer corff ac ysgogi eu meddyliau bob dydd rhag iddynt ddiflasu. Maent yn reddfol yn gŵn sy’n dilyn ysglyfaeth felly mae angen eu hyfforddi’n ofalus wrth eu galw’n ôl a bydd angen mannau diogel ar gyfer ymarfer oddi ar dennyn arnynt.
Mae’r cŵn bach hyn yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion tro cyntaf sy’n mynd i neilltuo amser ac ymdrech i’w hyfforddi a’u hymarfer a’u cyflwyno i weithgareddau fel pêl hedfan ac ystwythder. Maent yn ddeallus, yn dysgu’n gyflym ac yn cofio llawer o orchmynion ond os nad ydynt wedi’u hyfforddi gan ddefnyddio dulliau cadarnhaol priodol, gallant ddysgu arferion gwael yr un mor hawdd!
Bydd angen gardd ddiogel iawn arnynt a dylid sicrhau fod y cartref yn barod ar gyfer cŵn bach.
Bydd angen i’ch Sprollie fynychu dosbarthiadau hyfforddi cŵn bach er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt.
Mae’r cŵn bach bron â bod yn 10 wythnos oed. Byddant yn hapus i fyw gyda phlant o bob oed sy’n gyfarwydd â chŵn, byddai’r cŵn bach hefyd yn elwa o gi preswyl sydd wedi hen ennill ei blwyf, a bydd hyn yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd. Mae’r cŵn bach yn gariadus iawn ac wedi arfer cymdeithasu â phobl.
Mae gennym 9 ci bach, 5 benyw a 4 gwryw.
Venus – Coler binc a phorffor – Benyw
Selene – Coler turquoise gyda bananas – Benyw
Io – Coler gyda smotiau du a gwyn – Benyw
Callisto – Coler binc – Benyw
Europa – Coler streipiog glas a gwyn – Benyw
Mercury – Coler oren a glas – Gwryw
Jupiter – Coler las, glas golau, gwyrdd a melyn – Gwryw
Saturn – Coler ag esgyrn glas – Gwryw
Neptune – Coler las – Gwryw
Rhaid i bob ci preswyl fod wedi ei ysbaddu ac wedi derbyn pob brechiad angenrheidiol
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn ein canolfan.
Comments are closed.