Dewch i gwrdd ag Aunt Sally, ein dwten fach ddiweddaraf!
Daeth Aunt Sally atom oherwydd iddi gael ei darganfod yn crwydro; roedd hi mewn cyflwr gwael yn cyrraedd acw. Roedd ei blew yn frau ac yn teneuo. Roedd ganddi rhywfaint o broblemau gyda’i chlustiau ac yn anffodus roedd hon eto yn gi bach o frîd tarw (bulldog) a ddaeth atom gyda Cherry Eye. Mae hi bellach wedi cael ei golchi’n drylwyr ac mae’n teimlo yn llawer gwell! Mae Sally wedi derbyn diferion er mwyn glanhau ei chlustiau ac maen nhw’n clirio’n dda. Cafodd hi lawdriniaeth ar y cherry eye hefyd ac ymddengys ei bod hi’n gwella’n dda.
Mae gan Aunt Sally bersonoliaeth fendigedig, mae hi’n ferch fach eofn sy’n gallu gwneud i unrhyw un chwerthin gyda’i thafod bach ddoniol ! Mae hi wrth ei bodd yn cerdded gyda’n gwirfoddolwyr a gallai eistedd gyda ni drwy’r dydd a chael crafu ei chefn a chael cwtsh. Byddai Aunt Sally yn bartner gwych ar gyfer antur a byddai wrth ei bodd yn cerdded llawer o gamau bob dydd. Mae hi’n ferch sensitif sydd angen bywyd tawel gyda llawer o chwarae â phêl rhwng cyfnodau o gysgu!
Bydd angen iddi gael perchnogion sy’n deall fod rhaid gofalu am ei chroen, glanhau’r plygiadau’n ddyddiol a chadw golwg ar ei deiet gan ei bod hi’n gi tarw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ei chroen yn parhau i fod cystal ag y gall fod! Bydd angen iddi fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn helpu gyda’i sgiliau cerdded ar dennyn a chymdeithasu .
Gallai hi, o bosibl, fyw gyda phlant tawel sy’n deall bod angen amser tawel arni, rydym hefyd yn hapus i’w chyflwyno i gathod sy’n byw yn y cartref a chŵn eraill wedi eu hysbaddu yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
11
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Aunt Sally. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.