Dewch i gwrdd â Bonnie, y staffi hardd!
Fel llawer o’n cŵn, daeth Bonnie i’n gofal oherwydd ei bod yn crwydro. Golyga hyn, yn anffodus, nad oes gennym lawer o wybodaeth am ei chefndir. Fodd bynnag, gwyddom fod Bonnie yn staffi nodweddiadol gyda llawer o gariad i’w roi! Credir ei bod hi tua 4-5 mlwydd oed. Mae hi’n ei chael hi’n arbennig o anodd bod yn y cenel a bydd hi’n llonni bob dydd pan gaiff hi fynd allan am dro.
Mae Bonnie yn gerddwr brwd a gall hi ddal ati i fynd am oriau! Os ydych yn chwilio am ffrind i fynd i heicio efo chi ac sydd â gwên staffi mawr, yna ein Bonnie hyfryd ni yw’r ferch i chi. Mae hi wedi dangos sgiliau cerdded a moesau gwych o amgylch cŵn a phobl eraill ac mae’n mwynhau rholio rownd ar laswellt bob hyn a hyn er mwyn gadael i’r holl gŵn bach eraill wybod ei bod hi wedi bod yno y diwrnod hwnnw! Mae Bonnie yn ferch egnïol a bydd angen llawer o ymarfer corff a gweithgareddau i gadw ei hymennydd yn brysur er mwyn iddi fod yn hapus a bodlon. Bydd angen hyfforddiant arni i’w dysgu sut i setlo pan y bydd hi yn ei chartref, er mwyn magu ei hyder ac er mwyn dysgu pethau newydd sy’n llawn hwyl i’w chadw’n hapus!
Mae hi’n ferch sensitif sy’n hoffi bywyd o ymlacio gyda llawer o droeon; bydd angen cartref tawel gydag oedolion yn unig a bydd angen iddynt fod o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser.
Gallai Bonnie o bosibl fyw gyda chŵn tawel eraill o faint tebyg yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Bonnie yn mynd am dro.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bonnie (Staffie). Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.