Clive James yw’r ci bach golygus anniben hwn; mae’n gi ifanc egnïol sydd â chryn dripyn o’r brîd Jack Russell yn ei wneithuriad.
Cyrhaeddodd Clive James y ganolfan oherwydd iddo gael ei ddarganfod yn crwydro ac ni hawliodd neb mohono ar ôl hynny. Erbyn hyn mae’n barod i symud at bennod nesaf ei fywyd gyda theulu cariadus sy’n mwynhau mynd ar anturiaethau hir a chreu amser ar gyfer cofleidio!
Mae’n hynod foesgar pan ar dennyn ac yn mynd am droeon hir a ‘dyw prin byth yn tynnu. Mae Clive James yn hoffi ceisio chwarae gyda’r wiwerod a’r adar; does gennym ni ddim mo’r galon i ddweud wrtho y dylai gadw at ei ffrindiau ymhlith y cŵn eraill. Bydd Clive James yn canfod hwyl ym mhopeth o’i gwmpas!
Gallai Clive James, o bosibl, fyw gyda phlant ac anifeiliaid anwes eraill sydd wedi’u hysbaddu. Bydd hyn yn seiliedig ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Bydd angen trin a thrafod cot Clive James bob dydd er mwyn helpu gofalu amdani.
Os ydych chi’n chwilio am gi hwyliog, egnïol a llawn cariad, Clive yw’r un i chi.
Byddai’n well ganddo nad oes unrhyw un segur yn gwneud cais amdano ac mae’r bachgen hwn yn caru ymweld â choedwigoedd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Clive James. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.