Gadewch i ni gyflwyno Ronnie, un o dri ci tarw (bulldog) a ddaeth gyda’i gilydd atom oherwydd eu bod yn crwydro. Roedd Ronnie, yn ddealladwy, o dan straen mawr ar ôl cyrraedd ac yn anffodus mae’n stryffaglu’n arw gyda byw mewn cenel. Fodd bynnag, unwaith y bydd allan o’i genel mae’n ffynnu pan ddaw’r teganau allan! Mae wrth ei fodd yn mynd ar ôl pêl yn yr ardd ac yn chwarae llawer o gemau gyda danteithion hefyd. Credwn fod Ron tua dwy flwydd oed.
Mae’n debyg nad yw Ronnie erioed wedi bod allan am dro ar dennyn, gan nad yw’n deall yn iawn sut mae harnais/coler a thennyn yn gweithio ac ar y dechrau roedden nhw’n ei ddychryn! Rydym wedi bod yn gwneud gwaith yn gysylltiedig â hyn gydag ef ac mae bellach yn gwisgo ei harnais a mynd am dro heb straen gyda’n gwirfoddolwyr. Mae Ronnie yn llawn egni a byddai’n gyfaill gwych i fynd ar antur gyda fe unwaith y bydd yn sylweddoli nad yw’r byd yn le mor frawychus ag y tybia!
Mae Ron yn dwlu cael cwtsh mawr hefyd ac wrth ei fodd yn cael mwythau unwaith y bydd yn eich adnabod ac yn ymddiried ynoch chi; gall fynd dros ben llestri braidd gyda’r cusanau felly gwyliwch rhag ei ben mawr! Mae ganddo bersonoliaeth hyfryd sydd yn disgleirio unwaith y bydd allan o’i genel; pe bai swydd ganddo yna does dim dwywaith nad digrifwr fyddai e’!
Bydd angen i Ronnie fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i ddysgu sut i ‘fod yn gi’ yn iawn, dysgu sgiliau tennyn a sgiliau cymdeithasu. Gallai fyw gyda gast wedi ei hysbaddu yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Bydd angen glanhau plygiadau ei groen bob dydd a chael perchnogion sy’n deall brîd cŵn tarw fel y gall ffynnu mewn cartref sydd â phrofiad. Caiff drafferth ar adegau wrth gael ei adael ar ei ben ei hun felly bydd angen perchnogion sydd gartref y rhan fwyaf o’r amser ac sy’n gallu gwneud gwaith yn gysylltiedig â hyn gydag ef.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Crumpet. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.