Frances in the grass
Frances yw’r ferch hardd hon, Bulldog ifanc a oedd yn ddigartref, gwaetha’r modd. Ar ôl cyrraedd y ganolfan roedd Frances yn ferch bryderus iawn ac fe gymerodd beth amser i addasu i’w hamgylchiadau newydd.
Roedd hi’n amlwg nad oedd Frances wedi cael y dechrau gorau i’w bywyd a heb gael cyfle i ddysgu sgiliau bywyd a chymdeithasol. Mae hi’n ofni’r rhan fwyaf o bethau o’i chwmpas.
Rydym wedi bod yn gweithio’n bwyllog gyda Frances er mwyn ei helpu i addasu a chynyddu ei hyder mewn sefyllfaoedd newydd. Mae hi’n gwneud cynnydd da iawn ac yn mwynhau’r amgylchedd tu allan, gan sylwi ar yr arogleuon a’r hyn sy’n digwydd o’i chwmpas.
Mae Frances yn ferch mor hyfryd ac yn awyddus i ddysgu pethau newydd; bydd yn rhagori mewn ysgol ar gyfer cŵn .
Mae hi’n caru bod yng nghwmni pobl a bydd angen iddi fod â rhywun sydd o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser ac sy’n medru ei helpu i ddod yn fenyw annibynnol.
Bydd angen i Frances fod mewn cartref gydag oedolyn yn unig er mwyn ei helpu i gyflawni ei photensial.
Gallai Frances fyw gyda chathod a chŵn sydd wedi eu hysbaddu yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Mae angen gwybodaeth am y brîd bracycephalic i sicrhau ei bod yn derbyn y gofal angenrheidiol drwy gydol ei bywyd.
Frances yn aros am driniaeth
Frances yn chwarae cuddio
Frances yn hapus
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Frances. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.