A wnewch chi groesawu Harriet fach i’r gwesty os gwelwch yn dda? Cyrhaeddodd Harriet i’n gofal oherwydd ei bod wedi ei darganfod yn crwydro ac ni chafodd ei hawlio ar ôl hynny.
Mae Harriet tua 1-2 flwydd oed ac yn gi tarw Ffrengig (French bulldog).
Mae hi’n ferch ifanc, hapus sy’n chwilio am deulu bywiog a fydd yn gallu bodloni ei hanghenion.
Mae Harriet yn gymdeithasol tu hwnt, mae hi’n chwilfrydig iawn ac yn hoffi gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd. Teimlwn y gallai hi fyw gydag anifeiliaid sydd wedi eu hysbaddu a phlant o bob oed.
Mae gan Harriet yn ddigon moesgar wrth gerdded ar dennyn ac nid yw’n poeni am draffig na synau uchel.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y ganolfan a rhaid i deulu newydd Harriet allu parhau gyda gwaith cynnal a chadw y brîd hwn a mynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn helpu creu perthynas a dysgu sgiliau newydd.
Cewch y gorau o ddau fyd gyda Harriet; mae hi’n gariad cwtshlyd ac yn gyfaill cerdded i gyd o fewn yr un ci!
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Harriet. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.