Joan sitting
Mae gennym rhywun enwog yn yr adeilad! Mae Miss Joan Rivers yma i ddangos ei gwên bwli hardd. Bulldog Americanaidd benywaidd 3-4 oed yw Joan. Daeth i mewn i’n gofal oherwydd ei bod yn crwydro ac mae hi bellach yn chwilio am ei chartref parhaol.
Fel y gwelwch, mae Joan yn ferch hapus iawn. Gall hi fod ychydig yn swil wrth gyfarfod am y tro cyntaf ond unwaith y bydd hi’n eich adnabod mae hi’n dechrau gwenu ac yn hapus i fynd am dro hir braf wrth eich ymyl. Mae hi wrth ei bodd yn arogli pethau yn ystod ei throeon ac mae hi’n wyliwr gwiwerod brwd! Mae gan Joan bersonoliaeth hyfryd a gall wneud i unrhyw un wenu , hyd yn oed ar ddiwrnod gwael! Mae bwyd yn gymhelliad mawr iddi a byddai wrth ei bodd yn mynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn magu hyder a bodloni ei hanghenion brîd tarw (bulldog)!
Gallai Joan fyw gyda chŵn eraill wedi eu hysbaddu a phlant 16+ sy’n gyfarwydd â chŵn mawr yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Joan Rivers. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.