Loki at the field
Loki yw’r bachgen golygus hwn a ddaeth i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro. Mae’n ŵr bonheddig sy’n chwilio am ei gartref parhaol. Credwn fod Loki yn gymysgedd o Labrador a Collie.
Mae Loki wrth ei fodd yn rhedeg ar ôl pêl. Mae’n fachgen ffyddlon iawn; mae’n hoffi bod gyda’i bobl.
Mae Loki yn gweithio’n galed o ran ei sgiliau cymdeithasu a chŵn eraill ac mae’n gwneud cynnydd da. Mae’n debyg y byddai’n hoffi cael gast yn gyfaill iddo.
Gwelsom fod Loki yn fachgen egnïol; bydd ef yn dal ati i gerdded mor bell ag y medrwch chithau gerdded! Bydd e’ wrth ei fodd yn cael mynd ar anturiaethau a chael archwilio ardaloedd newydd.
Bydd angen i’r bachgen hardd hwn gael cartref gyda rhywun o gwmpas y rhan fwyaf o’r amser, rhywun a fydd yn ei helpu i setlo a dysgu treulio amser ar ei ben ei hun.
Gall fod yn gryf ar dennyn ar adegau, ond bydd yn ymateb yn dda i orchmynion llais.
Gall Loki fod yn ffyslyd o ran bwyta danteithion; dim ond y rhai mwyaf blasus fydd yn gwneud y tro o ran ei hyfforddi!
Gallai Loki fyw gyda phlant hŷn o oedran ysgol uwchradd. Byddem hefyd yn hapus i gyflwyno cathod sy’n byw yn y darpar cartref yn ogystal â chŵn wedi eu hysbaddu sydd o faint tebyg iddo ef.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn ein canolfan ac rydym bob amser yn cynghori bod cŵn wedi eu hachub yn mynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn meithrin perthynas a dysgu oddi wrth eich gilydd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Loki. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.