Pebbles teeth
Gadewch i ni gyflwyno ein bwndel diweddaraf o lawenydd, sef Pebbles!
Frenchy golygus iawn yw Pebbles a ddaeth atom oherwydd ei fod yn crwydro. Mae e’ bellach yn chwilio am ei deulu parhaol a all roi’r holl gariad y mae’n ei haeddu iddo! Credwn ei fod tua dwy flwydd oed.
Mae Pebbles yn fachgen bach hyderus sy’n caru dim byd mwy na chael sylw tyner gan ei bobl; mae’n gyson yn chwilio am rywun i’w fwytho. Mae ganddo natur hyfryd sy’n gytbwys rhwng bod wedi ymlacio ac yn llawn egni. Gallai weddu teulu sy’n hoffi mynd am droeon hir yna gorffen y dydd gyda chwtsh ar y soffa! Mae ei wên bach danheddog doniol yn siŵr o roi gwên ar wyneb unrhyw un.
Dangosodd Pebbles sgiliau niwtraliaeth wrth fynd allan am dro bob dydd; soniwyd wrthym ei fod yn hoffi ymlwybro yn ei flaen gyda’i hoff wirfoddolwyr gan wylio’r byd yn mynd heibio. Yna, aiff yn ôl i’r lle chwarae ar gyfer chwarae gêm o nôl y bêl. Mae’n hoffi gwylio cŵn eraill yn mynd heibio ond gall fod ychydig yn uchel ei gloch os ydyn nhw’n cyfarth arno ef yn gyntaf, felly bydd angen rhywfaint o hyfforddi er mwyn gwella hyn.
Gallai Pebbles fyw gyda chi, cathod a phlant eraill o unrhyw oedran yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan. Bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu gyda’i sgiliau cymdeithasol a bywyd yn gyffredinol.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Pebbles. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.