Phoenix on the bridge
Phoenix
Cyrhaeddodd Phoenix, y ferch brydferth hon, i’n gofal heb fod unrhyw fai arni hi.
Mae gan Phoenix natur hollol wych, mae hi’n cyfarch pawb drwy siglo’i chynffon ac mae bob amser yn bleser bod yn ei chwmni.
Mae Phoenix yn dangos moesau da o amgylch cŵn eraill; mae hi’n gallu chwarae a bod yn barchus pan fo’r angen.
Mae Phoenix yn cerdded yn dda ar dennyn, er y gall hi dynnu ar adegau os digwydd i rywbeth ddal ei sylw. Mae Phoenix yn ddisglair iawn ac mae hi’n ymateb yn wych i ddulliau hyfforddi cadarnhaol.
Bydd angen brwsio’i chot bob dydd er mwyn cynnal a chadw’r got German Shepherd bendigedig.
Byddem yn hapus i osod Phoenix mewn cartref gyda phlant â dealltwriaeth o gŵn, sydd wedi arfer â bridiau mawr ac sydd yn gallu gwrando ar gyfarwyddiadau.
Gan fod Phoenix yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i fod yn barchus o amgylch gŵn eraill, byddem wrth ein bodd petai ganddi gyfaill, sef ci wedi ei ysbaddu, tra ei fod o anian dawel.
Mae Phoenix yn llawn cariad ac mae hi’n haeddu cymaint mwy nag y mae wedi ei gael.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn ein canolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Phoenix. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.