Terri y Plummer Terrier yw’r gŵr bach hapus hyfryd hwn. Daeth Terri i’n gofal ni oherwydd ei fod yn crwydro; roedd e’n swil iawn ac wedi drysu’n lân ar y dechrau. Mae Terri bellach yn chwilio am gartref parhaol lle gall fagu hyder a dysgu sut i ffynnu fel y gall fod yn gi Terrier bach sionc fel y dylai fod!
Mae Terri yn teimlo’n fwy hyderus pan fo gyda chŵn eraill; mae wir wrth ei fodd yn chwarae gyda’i ffrindiau a gallwch weld ei fod yn fwy hyderus o gwmpas pobl pan mae’n gweld cŵn eraill yn cael maldod hefyd. Rydym yn credu y byddai’n elwa o fyw gyda chi preswyl arall sydd wedi cael ei ysbaddu, yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Mae Terri wrth ei fodd yn mynd am droeon hir; byddai’n gyfaill da i rywun sy’n hoffi troeon hir a mynd i archwilio. Byddai’n well ganddo fyw yn rhywle tawel gan ei fod yn gallu bod yn eithaf pryderus am bethau sy’n gwibio heibio iddo (beiciau, ceir ac ati)! Bydd angen i Terri fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn cynyddu ei hyder o ran y pethau hyn, a dysgu sgiliau bywyd cyffredinol.
Mae Terri ychydig yn ansicr o gael sylw gan bobl ar hyn o bryd. Er ei fod yn mwynhau cwtsh unwaith y mae’n eich hadnabod chi, gall fod yn amheus ar y dechrau. Bydd angen iddo gael perchnogion a all fod yn bwyllog er mwyn iddo ddod i ymddiried ynddynt yn raddol bach. Yn yr un modd, gall gymryd pwyll olygu y bydd yn dod i gysylltu cael ei gyffwrdd gan bobl fel rhywbeth cadarnhaol, fel ei fod yn teimlo’n ddiogel o’ch cwmpas.
Gallai fyw gyda phlant tawel 11+ sy’n parchu ei ofod yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Terri. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.