Gadewch i ni gyflwyno’r ddwy Frenchie bach yma i chi, sef Thelma a Louise! Druan â’r ddwy yma a ddaeth atom oherwydd eu bod yn crwydro; yn ddealladwy, wedi iddynt gael eu gadael gan eu perchnogion diwethaf, roeddent yn nerfus iawn a heb unrhyw syniad ymhle yr oeddent. Maent yn awr yn chwilio am gartref parhaol.
Fel y gwelwch, cyrhaeddodd Thelma i’n gofal gyda phroblem iechyd amlwg. Dyma realiti anffodus llawer o’r cŵn sy’n dod atom. Mae hi’n gwella’n dda ar ôl ei llawdriniaeth.
Mae Thelma a Louise yn caru cwmni ei gilydd. Dwy ferch fach sy’n llawn egni a hwyl mewn dau gorff bach ydynt! Maen nhw’n caru eu troeon bob dydd ac yn mwynhau clywed holl arogleuon y byd o’u cwmpas. Maen nhw hefyd yn mwynhau chwarae yn y lle chwarae gyda’n gwirfoddolwyr a neidio ar y soffa wedyn i gael cwtsh.
Bydd angen i Thelma a Louise fynychu dosbarthiadau hyfforddi i’w helpu gyda’u sgiliau cymdeithasu â chŵn eraill , datblygu eu hyder a dysgu bod ar dennyn. Gallai’r ddwy ohonynt, o bosibl, fyw gyda chi wedi eu ysbaddu, cathod a phlant yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan. Mae’r merched yn bâr bach hapus ac yn ffynnu o fod gyda’i gilydd. Mae Thelma yn edrych at Louise am hyder a sicrwydd, Mae hi’n ei cholli os ydyn nhw’n mynd am dro ar wahân a bydd y ddwy yn cyfarch ei gilydd yn frwd unwaith y byddan nhw’n cael eu haduno.
Mae’r merched wedi cael eu cyflwyno i gŵn ac ymddengys eu bod yn setlo unwaith y byddant yn teimlo’n ddiogel. Rhyngoch chi â ni, byddent yn hoff o gael cŵn eraill yn rhan o’u teulu, dim ond iddynt gael ychydig o gymorth gyda dysgu’r sgiliau priodol i allu gwneud hynny!
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Thelma and Louise. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.