Yn Cyflwyno ein Lleidr calonau, Dart y Lurcher ! Paid a gadael ei goesau hir chawarae chi, mae’n fachgen ifanc 21 mis oed. Mae Dart nawr yn edrych am ei gartref bythol, lle mae’n gallu cael zoomies a naps ar y sofa tan fodlonrwydd
Mae gan Dart natur hyfryd, mae’n fachgen tyner sy’n mwynhau cwtch gan ei bobl a mynd am dro cyn ymlacio am weddill y diwrnod. Mae Dart yn glyfar iawn ac yn gallu dysgu’n gloi, bydd angen i ei berchnogion newydd cymryd Dart i wersi I helpu tacluso ei sgiliau cyffredinol ond ni fydd hyn yn anodd gan ei fod yn caru ei treats a bwyd. Mae gan Dart y Zoomies gorau sy’n gwarantu rhoi gwen ar wyneb unrhyw un sy’n caru lurchers.
Roedd Dart gyda ni fel ci bach ond yn anffodus fe ddaeth e nôl I ni gyda dweud ei fod yn dangos behafiad gwarchod adnoddau, ond dydyn ni ddim yn gweld hyn o fewn amgylchedd y cwteri neu gyda staff a gwirfyddolwyr. Mae’n bwysig bod perchnogion newydd Dart yn ymwybodol o hyn ac yn gallu parchu ei ffiniau a helpu gyda’i wersi i dyfu
Yn ddibynnu ar ragarweiniadau mae’n bosib gall Dart byw gyda ci arall o natur tebyg ac sydd wedi’I ddirywio. Mae Dart yn siwtio cartref di-plant a di-cathod.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Dart. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.