Bwysig
Rydym yn derbyn rhoddion e.e. blancedi cynnes, tywelion, coleri, harnesi, llinynau a theganau addas.Gallwch chi hefyd ein helpu trwy ddefnyddio ein tudalen ymroi neu cysylltu a Chartref Cwn Caerdydd, Y Gwesty Achub Cwn neu’r rhestr dymuniadau Amazon.
https://www.therescuehotel.com/makeadonation/
https://www.amazon.co.uk/hz/wishlist/ls/27ZTEM3YUTCNI?ref_=wl_share
Ail-gartrefu
Camau at ailgartrefu
- Gwnewch rywfaint o ymchwil ar y brîd, yr oedran a’r maint i weld pa fath o gi allai weddu orau i’ch ffordd o fyw.
- Penderfynwch ar y ci yr hoffech ei ailgartrefu.
- Llenwch y Ffurflen Gais a’i e-bostio gyda gwybodaeth atodol i cartrefcwncaerdydd@caerdydd.gov.uk
- Cewch sesiwn gyflwyno gyda’r ci i weld sut mae’r ci yn ymateb i chi a chithau i’r ci. Deallwch ein bod yn delio gyda chŵn strae yn bennaf ac mae cyfyngiadau ar y wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi.
- Bydd y ci hefyd yn cael ei gyflwyno i unrhyw anifeiliaid anwes, oedolion neu blant eraill a fydd yn byw yn y cartref.Byddwn yn edrych ar eich cais ac os byddwn yn meddwl eich bod yn cydweddu’n dda byddwn yn cysylltu â chi i drafod y cais yn fanwl. Os byddwn yn hapus eich bod yn cydweddu’n dda â’r ci rydych wedi gwneud cais amdano byddwn yn eich gwahodd i ddod i lawr i gael eich cyflwyno ac os bydd hyn yn llwyddiannus byddwn yn caniatáu i chi faethu’r ci am bythefnos er mwyn bod yn siŵr y bydd hyn yn gweithio i chi ac i’r ci! Byddwn mewn cysylltiad rheolaidd gyda chi yn ystod y cyfnod hwn ac ar y diwedd byddwn yn ailgartrefu’r ci i chi yn barhaol. Os na fyddwn yn credu eich bod yn cydweddu’n dda â’r ci rydych chi wedi gwneud cais amdano neu os bydd y ci hwnnw wedi cael ei baru eisoes, byddwn yn argymell ci arall os byddwn yn teimlo bod gennym un a fydd yn cydweddu’n dda â chi.
- Bydd ein penderfyniadau’n seiliedig ar;
- Y ffurflen gais
- Canlyniad cyfarfodydd cyflwyniadol
- Canlyniad cyflwyniadau i anifeiliaid anwes eraill a phlant
- Anghenion y ci penodol a sut maent yn cyd-weddu â’ch amgylchiadau chi
- Geirdaon gan filfeddygon (hanes meddygol eich ci presennol neu flaenorol)
- Caniatâd ysgrifenedig i gael ci yn eich eiddo (os ydych mewn eiddo rhent)
- Ymweliad â’ch cartref (os bydd angen)
- Asesiad o ymddygiad y ciGwneir pob gwiriad cartref trwy alwad fideo a ffotograffau am y dyfodol rhagweladwy.
Ffioedd
Y ffi ailgartrefu safonol yw £250. yw’r ffi am gŵn bach ac mae ffioedd rhwng £200 a £500 am rai cŵn unigol eraill.
Mae’r ffi hon yn cynnwys y brechiad cyntaf, microsglodynnu, a thriniaethau cychwynnol ar gyfer chwain a llyngyr. £20 fydd cost yr ail frechiad.
Nid ydym yn rhoi ad-daliadau am gŵn sy’n cael eu dychwelyd ond gallem ganiatáu i gi arall gael ei ailgartrefu am ddim yn dibynnu ar amgylchiadau’r dychweliad.
Ysbaddu
Nid yw Cartref Cŵn Caerdydd yn darparu’r gwasanaeth hwn ar y safle ar hyn o bryd. Byddwn yn esbonio’r broses i bobl sy’n ailgartrefu cŵn oddi wrthon ni cyn bod i’r mabwysiadu ddigwydd.