Cane Corso ifanc yw’r darpar fodel Cher a ddaeth atom oherwydd iddi gael ei chanfod yn crwydro. Mae hi’n hynod o drawiadol ac yn ffefryn ymhlith yr holl staff a’r gwirfoddolwyr. Mae hi’n rhoi’r cwtsh gorau a hoffem weld ei phawennau mawr yn glanio ar ei soffa barhaol hi ei hun yn fuan.
Mae Cher yn dal i fod yn ifanc iawn ac mae ganddi lawer i’w ddysgu am y byd. Rydyn ni’n credu ei bod hi ychydig o dan flwydd oed ond yn bendant mae ganddi rywfaint o besgi a thyfu i’w wneud – bydd hi’n ferch fawr iawn pan fydd hi wedi gorffen tyfu! Gall hi or-gyffroi wrth ddod allan o’i chenel ond buan iawn y bydd hi’n tawelu ac fe ŵyr sut i gerdded yn agos at sawdl unwaith y bydd hi wedi setlo. Mae hi’n ferch ddisglair a bydd hi’n bleser i’w hyfforddi a chreu pherthynas â hi, yn sicr.
Bydd angen i deulu newydd Cher fod yn hyderus gyda bridiau enfawr ac yn ddelfrydol fod â phrofiad gyda Cane Corsos neu fridiau tebyg, gan gynnwys eu hanghenion o ran eu hanian a’u hiechyd. Oherwydd ei maint hi byddem yn edrych i’w chartrefu gyda phlant 13+ sy’n hen gyfarwydd â chŵn mawr. Mae Cher yn ferch gymdeithasol iawn a fyddai o bosib yn ffynnu o fod gyda chi arall sydd wedi ei ysbaddu, sy’n hyderus ac yn debyg o ran maint. Gallai hi fyw gyda chath, o bosib, yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Ar hyn o bryd mae Cher yn aros am lawdriniaeth ar ei choes oherwydd nam yn nhwf ei phenelin. Ni fyddwn yn gallu cyflawni’r llawdriniaeth hon yn ein milfeddygfa ni nac ychwaith ddarparu’r gofal gorffwys o fewn crât iddi yma. Bydd angen i Cher fod yn ei chartref parhaol er mwyn gwella o’r llawdriniaeth hon a rhaid i’w phobl newydd ddilyn canllawiau llym i sicrhau ei bod hi’n gwella’n iawn. Mae hon yn llawdriniaeth fawr i Cher ac mae angen ei gwneud yn fuan. Os cewch eich dewis fel ymgeisydd addas ar gyfer Cher bydd y staff yn cysylltu â chi i drafod y broses cyn ac ar ôl ei llawdriniaeth.
Comments are closed.