Muffin
Chow Chow 3 mlwydd oed yw Little Miss Muffin sydd wedi dod yn ei hôl atom, yn anffodus, ar ôl bod mewn cartref maeth am gyfnod hir. Mae Muffin yn deillio o arferion bridio gwael ac mae hi wedi cael sawl triniaeth i gywiro ei phlygiadau wyneb a’i chadw’n gyffyrddus. Mae hi wedi brwydro’n daer ac wedi bod trwy broses iacháu hir ac erbyn hyn y cyfan sydd ei angen arni yw cartref parhaol lle y gall hi fod fel tywysoges.
RHAID i deulu newydd Muffin gael profiad da o’r brid Chow Chow ac wedi bod yn berchen ar un o’r cŵn hyn yn y gorffennol. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau sydd ddim yn bodloni’r meini prawf hyn. Maent yn gŵn cymhleth sydd angen llawer o gynnal a chadw ar eu cotiau a phlygiadau wyneb. Er bod Muffin wedi cael sawl triniaeth mae ganddi olwg cyfyng o hyd a bydd angen i’w pherchnogion ei chadw’n ddiogel pan fydd hi allan oherwydd hynny. Mae gan Muffin ei phersonoliaeth echreiddig ei hun y bydd unrhyw un sy’n caru cŵn Chow yn ei ddeall ac yn ei garu. Mae hi’n gwarchod ei bwyd yn ei chenel ac yn y cartref a bydd angen rheolau a hyfforddiant llym yn y maes hwn. Mae ei gallu hi i oddef cael ei chribo a’i brwsio yn gwella bob dydd, ond bydd angen bod yn bwyllog wrth i rywun proffesiynol drin ei chôt.
Bydd angen i Muffin fod yr unig dywysoges fach flewog yn y cartref. Nid yw hi’n ymateb mewn ffordd adweithiol i gŵn eraill yn ystod troeon ac mewn gwirionedd mae hi’n eithaf chwareus. Fodd bynnag, mae hi’n ei chael hi’n anodd rhannu lle yn y cartref gyda chŵn eraill a byddai’n well ganddi fod yn flaenoriaeth ei pherchennog newydd. Efallai y byddai hi’n gallu byw gyda chath, yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan.
Bydd angen cartref heb blant ar Muffin. Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod yn gwarchod bwyd, ond hefyd oherwydd ei golwg sy’n gyfyng. Weithiau gall ddychryn wrth i rywun fynd ati neu gyffwrdd â hi gan na all bob amser weld beth sy’n dod tuag ati. Bydd angen cartref gyda strwythur arni er mwyn iddi allu addasu’n hawdd i’w hamgylchedd newydd.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Muffin. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.