Croeso i’n bachgen hapus, Lafaro, ci Bulldog X sydd tua 2 oed a gyrhaeddodd yn ein gofal fel ci crwydr heb ei hawlio, fodd bynnag, mae bellach yn barod i ddod o hyd i’w gartref bythol.
Nid oes gan y bachgen hyderus hwn unrhyw bryderon aros gyda ni yn y gwesty. Mae’n amlwg ei fod wedi adnabod cariad yn ei fywyd blaenorol ac mae’n groesawgar iawn ac yn hapusaf yn cael yr holl sylw a hoffter!
Mae Lafaro yn fachgen gwych sy’n mwynhau mynd ar anturiaethau mawr a chwarae yn yr ardd gyda’r gwirfyddolwyr. Mae hefyd yn hoffi chwarae gyda’i gemau yn ôl yn ei genel ac mae’n hoffi mat llyfu gyda rhywfaint o paté arno!
Mae’n fachgen ifanc cyffrous felly, bydd angen i’w berchnogion newydd fod yn ymroddedig i’w symbylu’n feddyliol ac yn gorfforol yn ogystal â’i gofrestru ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi fel gall lafaro dysgu sgiliau bywyd sylfaenol.
Mae’n bosibl y gallai Lafaro fyw gyda phlant o unrhyw oedran sydd wedi arfer â steiliau chwarae bwli, cathod a chŵn preswyl eraill sydd wedi’u hysbaddu. Bydd hyn i gyd yn seiliedig ar gyflwyniadau rheoledig a wneir yma yn y ganolfan.
Comments are closed.