Microsglodynnu eich ci
Microsglodynnu yw’r dull mwyaf effeithiol a diogel o adnabod eich ci yn barhaol. Mae microsglodyn yn cael ei osod dan groen eich ci heb unrhyw boen a phan gaiff ei sganio gan warden cŵn neu filfeddyg, bydd eich manylion cyswllt chi yn ymddangos o gronfa ddata. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion.
Byddwn yn darparu’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim. Mae hefyd yn ofynnol yn ôl y gyfraith ers mis Ebrill 2016 eich bod yn microsglodynnu eich ci pan fo’n cael ei frechiad cyntaf/ar ôl 8 wythnos, a bod rhaid diweddaru’r manylion.
Gwnewch apwyntiad ar-lein neu dewch â’ch ci i’r cartref cŵn ar unrhyw adeg rhwng 10.30am-12pm neu 10.30am-12pm dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener neu 2pm-4pm dydd Iau neu ffoniwch ni ar 029 2071 1243 am ragor o wybodaeth.